Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011: Sylwadau Rhagarweiniol am ddarpariaethau ynghylch Comisiynydd y Gymraeg

 

Cafodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 gydsyniad brenhinol ar 9 Chwefror 2011. Rhoddodd statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru a gwnaeth ddarpariaeth ynglŷn â hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg ac ynglŷn â safonau’r Gymraeg.  Sefydlodd swydd Comisiynydd y Gymraeg a gychwynnodd yn swyddogol ym mis Ebrill 2012.

 

Prif nod Comisiynydd y Gymraeg yw hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg.  Wrth wneud hynny rhaid gweithio tuag at gynyddu darpariaeth a defnydd o wasanaethau Cymraeg a chynyddu cyfleoedd eraill i bobl ddefnyddio’r iaith. Rhaid hefyd rhoi sylw i’r canlynol:

¢  Statws swyddogol y Gymraeg yng Nghymru

¢  Y dyletswyddau i ddefnyddio’r Gymraeg sydd wedi eu gosod drwy safonau’r Gymraeg, a’r hawliau sy’n deillio o orfodi’r dyletswyddau hynny

¢  Yr egwyddor na ddylai’r Gymraeg gael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru

¢  A’r egwyddor y dylai pobl yng Nghymru allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

 

Mae Rhan 2 y Mesur yn  ymwneud â phenodi Comisiynydd.

Mae’r Mesur yn gosod dyletswyddau, rhoi nifer o swyddogaethau eang a phwerau penodol i’r Comisiynydd.    Er enghraifft mae adran 4 yn rhoi pwerau cyffredinol ac eang i’r Comisiynydd:

(1)       Caiff y Comisiynydd wneud unrhyw beth sy’n briodol yn ei dyb ef—

(a)       er mwyn hybu defnyddio’r Gymraeg,

(b)       er mwyn hwyluso defnyddio’r Gymraeg, neu

(c)       er mwyn gweithio tuag at sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.

 

(2)       Mae hynny’n cynnwys gwneud unrhyw un neu ragor o’r pethau canlynol, ond nid yw wedi ei gyfyngu i hynny—

(a)       hybu darparu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg;

(b)       annog arferion gorau o ran defnyddio’r Gymraeg gan bersonau sy’n delio â phersonau eraill, neu sy’n darparu gwasanaethau i bersonau eraill;

(c)       cadw digonolrwydd ac effeithiolrwydd y gyfraith sy’n ymwneud â’r Gymraeg o dan arolygiaeth;

(d)       llunio a chyhoeddi adroddiadau;

(e)       gwneud gwaith ymchwil neu gomisiynu eraill i’w wneud;

(f)        gwneud gweithgareddau addysgol neu gomisiynu eraill i’w gwneud;

(g)       rhoi cymorth (gan gynnwys cymorth ariannol) i unrhyw berson;

(h)      gwneud argymhellion ysgrifenedig i Weinidogion Cymru;

(i)        cyflwyno sylwadau i unrhyw berson;

(j)         rhoi cyngor i unrhyw berson.

 

Mae’r pwerau hyn wedi fy ngalluogi i weithredu yn eang a byddaf yn ymhelaethu ar hynny yn fy ymateb i gwestiwn 2. 

 

Mae rhan 2 y Mesur yn rhoi swyddogaethau penodol iawn i mi hefyd.  Er enghraifft, mae’n rhaid i mi gynhyrchu adroddiad 5 mlynedd ar sefyllfa’r Gymraeg (adran 5).  Cyhoeddais yr adroddiad 5 mlynedd cyntaf yn 2016 ac mae fy swyddfa’n dechrau paratoi ar gyfer adroddiad y cyfnod nesaf. Gallaf hefyd gynnal ymholiad i unrhyw fater sy’n ymwneud â fy swyddogaethau (adran 6).  Cyhoeddais ymholiad Fy Iaith: Fy Iechyd yn 2014 a oedd yn dadansoddi profiadau pobl o ddefnyddio gwasanaethau gofal sylfaenol drwy gyfrwng y Gymraeg.  Cododd materion arweiniodd at ddefnyddio pwerau adrannau 8, 9 a 10 mewn perthynas ag achosion cyfreithiol yn ystod fy nghyfnod.

Mae’r pwerau a’r swyddogaethau hyn wedi bod yn hanfodol i mi allu gweithredu tuag at y nod o hybu a hwyluso’r Gymraeg.  Nid wyf wedi gallu gwneud yr hyn a fyddwn wedi ei ddymuno bob amser, er enghraifft yr ymholiad Fy Iaith: Fy Iechyd yw’r unig ymholiad o’i fath i mi ei gyflawni yn ystod fy nghyfnod fel Comisiynydd.  Fodd bynnag, diffyg adnoddau sydd wedi bod yn bennaf gyfrifol am hynny yn hytrach na chyfyngiadau’n deillio o’r Mesur.

Gweinyddiad a Llywodraethiant yw sail adrannau 11 – 22.  Yn y cyswllt hwnnw nodaf mai ar sail gwirfoddol y bu i mi sefydlu Pwyllgor Archwilio a Risg. Mae’n drefn effeithiol.

 

Rhan 4 a 5 Mesur y Gymraeg, safonau’r Gymraeg yw sail prif waith y sefydliad. Mae sylwadau manylach ar hynny yng nghorff yr ymateb.

 

Rhyddid i Ddefnyddio’r Gymraeg ac ymchwilio i geisiadau o ymyrraeth â’r rhyddid hwnnw gaiff sylw yn Rhan 6 y Mesur. Rwyf wedi gwneud sylw ar Ran 6 yn fy adroddiadau blynyddol, fel sy’n ofynnol arnaf o dan y Mesur.

Mae Rhan 7 y Mesur yn ymwneud â sicrhau fy atebolrwydd i Dribiwnlys y Gymraeg. Mae bodolaeth a gweithrediad y Tribiwnlys wedi cryfhau braich y dinesydd o fewn trefniadau ymchwilio ac yn fodd o ddiogelu sefydliadau mewn sefyllfa lle bo corff-un-dyn yn gosod dyletswyddau.


Mae adrannau 150 yn galluogi Llywodraeth Cymru i gyflwyno rheoliadau i wneud newidiadau i rannau penodol o Fesur y Gymraeg ac adran 154 yn rhoi grym i newid y Mesur ar raddfa ehangach.

1.         Gwaith craffu ôl ddeddfu ar Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 – asesu llwyddiannau a chyfyngiadau canfyddedig y ddeddfwriaeth Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, ac effaith ac effeithiolrwydd safonau’r Gymraeg wrth wella gwasanaethau Cymraeg a chynyddu mynediad atynt.

 

          Mesur y Gymraeg – darpariaethau mewn perthynas â safonau
 

1.1      Mae’n anochel fod unrhyw newid i gyfundrefn reoleiddio’n arwain at anawsterau cychwynnol, wrth i sefydliadau ymgyfarwyddo â phrosesau newydd a dod i ddeall gofynion newydd. Cyhoeddodd y Llywodraeth ei phapur gwyn fis Awst 2017, 16 mis yn unig wedi i’r sefydliadau cyntaf ddechrau gweithredu safonau’r Gymraeg. Mae hyn yn gyfnod llawer rhy fyr i ganiatáu adlewyrchu’n briodol ar lwyddiannau a chyfyngiadau’r Mesur a’r safonau.

 

1.2      Mae’r adran hon yn cynnwys sylwadau ar ddarpariaethau’r Mesur mewn perthynas â safonau’r Gymraeg hyd at ddiwedd Mawrth 2018.

 

1.3      Darparu fframwaith y mae Mesur y Gymraeg. Nid yw, ohono’i hun, yn pennu cynnwys safonau nac yn gosod safonau ar sefydliadau; yn hytrach, mae’n galluogi hynny i ddigwydd. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i sylwedd materion gael ei bennu mewn dogfennau neu ddeddfiadau pellach (e.e. Rheoliadau Safonau’r Gymraeg; Polisi Gorfodi; atodlenni i’r Mesur), ac mae’n amlinellu prosesau y mae’n rhaid eu dilyn mewn perthynas â materion fel gosod a gorfodi safonau.

 

1.4      Er nad yw’n ddarn perffaith o ddeddfwriaeth, fy nghasgliadau, ar sail gweithredu Mesur y Gymraeg, yw:

 

¢   ei fod wedi creu cyfundrefn sy’n cymell sefydliadau i weithredu’n gadarnhaol er mwyn ddatblygu eu darpariaethau’n sylweddol mewn perthynas â’r Gymraeg;

¢   ei fod yn fy ngalluogi i reoleiddio’n gadarnhaol;

¢   bod darpariaethau presennol y Mesur yn ddigonol ar gyfer cyflawni ystod ehangach o waith hyrwyddo er mwyn hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg, ac nid yw’n gyfyngedig i ddarparu gwasanaethau (trafodir hyn mewn rhagor o fanylder o dan gwestiwn 2);

¢   bod modd delio â diffygion y gyfundrefn naill ai heb newid deddfwriaeth o gwbl, neu gyda mân ddiwygiadau i’r Mesur presennol.

 

1.5      Byddai gwneud newidiadau sylfaenol i’r ddeddfwriaeth yn debyg o arwain at gryn ansefydlogrwydd. Gyda gwasanaethau Cymraeg yn gwella, strategaethau hybu 5 mlynedd awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol ond yn eu hail flwyddyn llawn o weithrediad a thra bo angen i sefydliadau roi sylw i ddatblygiadau pwysig fel cynyddu defnydd a chynllunio’r gweithlu, mae risg sylweddol o golli’r momentwm a adeiladwyd gan Fesur y Gymraeg. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw rai ohonom mewn sefyllfa i wybod a fydd y ddeddfwriaeth yr arfaethir ei chyflwyno, i ddisodli darpariaethau Mesur y Gymraeg, yn well na’r drefn gyfredol.

 

Pennu safonau a gosod safonau

1.6      Mae’r Mesur yn diffinio pum dosbarth o safonau (cyflenwi gwasanaethau; llunio polisi; gweithredu; hybu; cadw cofnodion) ac yn nodi eu pwrpas cyffredinol. Caniateir i Weinidogion Cymru bennu safonau yn y pum dosbarth hynny drwy reoliadau. Rhaid i reoliadau, wrth gwrs, gael eu cymeradwyo gan y Cynulliad. Disgwylir i Gomisiynydd y Gymraeg reoleiddio er mwyn gwireddu amcanion polisi’r Llywodraeth fel eu gosodwyd mewn rheoliadau.

 

1.7      Yn y papur gwyn, mae’r Llywodraeth wedi adnabod fel problem y ffaith fod y sefydliadau gwahanol yn gyfrifol am lunio a gosod y safonau. Y datrysiad a gynigir gan y Llywodraeth yw eu bod yn dod yn gyfrifol am lunio safonau a’u gosod ar sefydliadau. (Mae’r papur gwyn yn cydnabod y goblygiadau difrifol o ran annibyniaeth pe bai’r Llywodraeth yn gyfrifol am lunio safonau a’u gosod arni ei hun, ond ni chynigiwyd datrysiad pendant i hyn.)

 

1.8      Y brif broblem a adnabuwyd gan y Llywodraeth yw bod y broses gosod (llunio adroddiad safonau; llunio’r safonau; gosod y safonau drwy hysbysiad cydymffurfio) yn cymryd gormod o amser – dros 18 mis. Mae fy swyddogion yn  gweithio gyda sefydliadau i ddatblygu hysbysiad cydymffurfio’n cymryd rhyw 6 mis, a’r darn o’r broses sy’n cymryd yr amser hiraf yw gwaith y Llywodraeth o lunio rheoliadau. O’r herwydd, mae’n annhebygol y câi’r broblem hon ei datrys pe bai’r Llywodraeth yn cymryd cyfrifoldeb fy swyddogion drwy ddod yn gyfrifol am osod safonau ar sefydliadau yn ogystal a’u pennu mewn rheoliadau.

 

1.9      Mae’n deg dweud bod anawsterau’n codi – wrth osod, gweithredu a gorfodi’r safonau – yn sgil y ffaith nad yw’r safonau a’r nodiadau esboniadol bob amser yn ei gwneud yn glir beth oedd bwriad y drafftwyr. Byddai’r holl drefn ar ei hennill pe bai mwy o fanylder ac arweiniad yn cael ei gynnwys yn rhan o  nodiadau esboniadol rheoliadau safonau.  Unwaith eto, mae’n annhebygol y byddai’r anawsterau hyn yn cael eu datrys pe bai’r Llywodraeth yn dod yn gyfrifol am lunio safonau a’u gosod ar sefydliadau.

 

1.10   Gyda 6 set o reoliadau safonau yn weithredol rhaid cwestiynu gwerth a budd gwneud newidiadau i’r drefn o bennu a gosod safonau bellach.

1.11   Gan ystyried y safonau eu hunain mae gan swyddogion ddealltwriaeth gref o berfformiad sefydliadau, o ddulliau sefydliadau o weithredu, ac o oblygiadau ymarferol y safonau. Mae’n bwysig defnyddio arbenigedd staff.  

1.12   Gan ystyried nifer a chymhlethdod y safonau, mae’n anochel na fydd rhai o’u goblygiadau a’u diffygion yn dod yn amlwg tan y cyfnod gosod a gweithredu. Gellir lliniaru rhywfaint ar effeithiau hyn drwy wneud newidiadau i drefniadau gwaith, na fyddai angen newid deddfwriaethol e.e.
 

¢   gwella trefniadau ymgynghori a chraffu ar reoliadau drafft cyn eu cyflwyno’n ffurfiol, gan gynnwys ystyried a oes gan y Cynulliad amser ac adnoddau digonol i graffu’n ystyrlon ar reoliadau safonau.

 

 

1.13   Tra nad yw’n broses gymhleth yn ei hanfod, mae cynnwys sefydliadau newydd mewn atodlenni a rheoliadau’n broses sy’n ddibynnol ar adnoddau a blaenoriaethau’r Llywodraeth. Er enghraifft, mae’r Llywodraeth wedi nodi na fydd yn llunio rheoliadau newydd, nac yn cynnwys unrhyw sefydliadau newydd mewn rheoliadau sy’n bod yn barod, tra bod proses ddeddfwriaethol Bil y Gymraeg yn mynd rhagddi. Golyga hyn fod:

 

¢   sefydliadau a grëwyd ers pasio’r rheoliadau heb unrhyw ddyletswydd arnynt o ran y Gymraeg ar hyn o bryd, er enghraifft Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a Cymwysterau Cymru;

¢   sefydliadau a gynhwyswyd mewn atodlenni, ond sydd heb eu cynnwys mewn rheoliadau, heb unrhyw ddyletswydd arnynt o ran y Gymraeg ar hyn o bryd neu’n parhau i weithredu cynlluniau iaith, er enghraifft cynghorau iechyd cyffredinol, cyrff proffesiynol iechyd a gofal, cymdeithasau tai,  cyflenwyr nwy, dŵr, trydan, swyddfeydd post, gwasanaethau post, gwasanaethau telathrebu, gwasanaethau bysiau a gwasanaethau rheilffyrdd.

 

1.14   Gyda thystiolaeth gadarn fod trefn safonau’r Gymraeg yn arwain at welliant o gymharu â chyfundrefn cynlluniau iaith Gymraeg, awgrymir y dylai fod yn flaenoriaeth canfod dull cyflym o ganiatáu gosod safonau ar sefydliadau sy’n gweithredu cynlluniau iaith Gymraeg ar hyn o bryd. Caiff gwasanaethau allweddol, sy’n berthnasol i lawer o bobl, eu darparu gan gyrff y Goron ac adrannau Llywodraeth y DU. Mae Mesur y Gymraeg yn caniatáu gosod safonau ar y sefydliadau hyn, ond rhaid i Lywodraeth Cymru gael cydsyniad gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn gyntaf. Canlyniad hynny hyn yw bod dwy gyfundrefn statudol ar waith. I’r dinesydd golyga bod yr hyn y gellir ei ddisgwyl yn amrywio o un cyffyrddiad sefydliadol i’r nesaf ac yn debyg o barhau felly am beth amser i ddod.

 

 

          Gorfodi Safonau
 

1.15   Diben Rhan 5 y Mesur yw creu trefn orfodi effeithiol ac effeithlon mewn perthynas â dyletswyddau sydd wedi eu gosod ar gyrff. Gallaf ymchwilio os oes amheuaeth nad yw sefydliad yn cydymffurfio gyda dyletswydd. Mae modd gosod sancsiwn mewn sefyllfaoedd lle canfyddir bod methiant wedi bod h.y. gorfodi safonau.

 

1.16   Mae Rhan 5 hefyd yn rhoi hawl proses i berson gyflwyno cwyn i mi. Wrth benderfynu cynnal ymchwiliad yn dilyn cwyn, nid unioni problem benodol yr achwynydd yw swyddogaeth y Comisiynydd ond yn hytrach ceisio sefydlu a oes methiant i gydymffurfio â gofynion safonau’r Gymraeg. Os byddaf yn dyfarnu fod methiant wedi bod, gallaf osod camau gorfodi er mwyn sicrhau nad yw’r methiant yn parhau neu’n cael ei ail adrodd.

1.17   Yn ystod 2017/18 agorwyd 79 ymchwiliad a dyfarnwyd ar 58, gyda rhai’n parhau i’r flwyddyn ganlynol. Gosodwyd 72 cam gorfodi a gofynnwyd i sefydliadau baratoi cynllun gweithredu ar 19 achlysur. Ymddengys fod sefydliadau’n llawer mwy parod i gymryd camau i sicrhau cydymffurfiaeth â safonau mewn ymateb i ymchwiliadau dan ddarpariaeth y Mesur nac yr oeddynt i ymchwiliadau a gynhaliwyd dan ddarpariaeth Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. Gwelir fod sefydliadau’n gweithredu camau gorfodi yn dilyn ymchwiliad, ac yn aml cymerir camau i atal y methiannau rhag digwydd eto a hynny cyn i ymchwiliadau ddod i ben. Hyd yn hyn, nid oes yr un dyfarniad ar gydymffurfiaeth na cham gorfodi wedi bod yn sail i apêl gan sefydliad sy’n awgrymu y defnyddir y pwerau gorfodi mewn ffordd resymol a chymesur.

 

1.18  Er bod adran 93 Mesur y Gymraeg yn rhoi disgresiwn i mi benderfynu unai i ymchwilio i gŵyn ddilys neu beidio, rhaid gwneud y penderfyniad mewn ffordd sy’n gyson â nodau cyffredinol y Mesur. Mewn dyfarniad achos Tribiwnlys y Gymraeg [TyG/WLT/16/8] dywedodd y Llywydd fod “... potensial i benderfyniad i beidio ag ymchwilio i gŵyn o’r fath danseilio hyder y cyhoedd yn effeithiolrwydd y Mesur fel modd o amddiffyn y cyfryw hawliau”. Nid ar chwarae bach felly y penderfynir peidio ymchwilio i gŵyn.  

 

1.19  Mae’r Mesur yn rhoi hawl digamsyniol i berson gyflwyno cwyn i Gomisiynydd y Gymraeg ac rwyf o’r farn fod angen cadw hawl yr achwynydd i gyfeirio cwyn yn syth ataf i. Mae hynny oherwydd fod heriau yn wynebu defnyddwyr y Gymraeg wrth iddynt geisio cwyno wrth sefydliad am faterion sy’n ymwneud â’r Gymraeg. Mae fy adroddiad sicrwydd, Mesur o Lwyddiant, yn dweud nad  yw sefydliadau wedi cymryd camau digonol i sicrhau y gall aelodau’r cyhoedd fod yn hyderus i gwyno’n uniongyrchol wrthynt am faterion yn ymwneud â’r Gymraeg. Does dim i rwystro sefydliadau cyhoeddus rhag bod â threfn hygyrch yn ei lle i’r cyhoedd i droi atynt gyda chwynion mewn perthynas â’r Gymraeg.

 

         

          Gweithrediad Safonau
  

1.20   Ag eithrio drwy orfodi nid yw’r Mesur yn pennu gweithgareddau monitro penodol y mae’n rhaid eu gwneud er mwyn sicrhau bod sefydliadau’n cydymffurfio â safonau, ond nid yw’n rhwystro hynny chwaith. Mae adran 4 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn rhoi’r grym i’r Comisiynydd wneud unrhyw beth sy’n briodol (yn ei thyb hi) er mwyn hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg, neu sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg. Ymhlith gweithgareddau mae modd hybu darparu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg, annog arferion gorau o ran defnyddio’r Gymraeg, gwneud gwaith ymchwil a llunio a chyhoeddi adroddiadau.

 

1.21  Ers Ebrill 2016 rwyf wedi mabwysiadu Fframwaith Rheoleiddio sy’n amlinellu dull cadarnhaol o reoleiddio. Mae’r fframwaith yn rhoi pwyslais ar newid ymddygiad a thraweffaith e.e. drwy fonitro a yw sefydliadau’n hybu eu gwasanaethau Cymraeg.

1.22   Elfen arall ohoni yw sicrhau bod gwaith monitro’n ymwneud ag ansawdd a gwneir ymdrech i gynnal arolygon barn gyda’r cyhoedd, cwrdd i wrando ar yr hyn sydd ganddynt i’w ddweud er mwyn deall eu anghenion a chyfathrebu hynny wrth sefydliadau cyhoeddus. Mae rhannu llwyddiannau’n gynyddol bwysig wrth i’r drefn safonau fynd rhagddi ac yn rhan o waith rheoleiddio’r Comisiynydd o’r dechrau. Mae’r gwaith hwn yn rhydd o gyfarwyddiadau statudol ac yn caniatáu rhoi sylw lle mae tystiolaeth yn dangos yr angen a sicrhau bod pethau’n digwydd fel y dylent. e.e.

 

¢   hybu ymdrechion sefydliadau i hunanreoleiddio’n effeithiol

¢   hwyluso’r gwaith o rannu llwyddiant ac arloesi

¢   cyhoeddi adroddiad blynyddol o ganfyddiadau a chasgliadau am berfformiad

¢   cynnal gweithdai lle caiff sefydliadau i ystyried diffygion a thrafod ffyrdd o wella

¢   cynnal cyfarfodydd unigol gyda sefydliadau blaenoriaeth uchel er mwyn trafod perfformiad mewn manylder

 

1.23   Erbyn hyn mae stôr o dystiolaeth ar gael yn rhoi gwaelodlin ar berfformiad a dealltwriaeth dda o weithrediad dyletswyddau iaith.  Dros amser y gobaith yw y bydd modd ceisio adnabod i ba raddau mae safonau’r Llywodraeth yn effeithio ar ddefnydd o’r Gymraeg mewn gwahanol sefyllfaoedd.

 

Effaith safonau’r Gymraeg

1.24   Gan droi sylw at effeithlonrwydd y safonau sydd eisoes mewn grym ac yn weithredol mae tystiolaeth fod ansawdd ac argaeledd gwasanaethau Cymraeg wedi gwella’n aruthrol ers cyflwyno’r safonau.

 

1.25   Hawliau’n Gwreiddio, adroddiad sicrwydd 2016-17, oedd y cyntaf ers i gynghorau sir, Llywodraeth Cymru a pharciau cenedlaethol ddechrau gweithredu safonau’r Gymraeg. Roedd yr adroddiad hwn yn casglu bod arwyddion cynnar bod profiadau pobl yn gwella, a bod gwasanaethau Cymraeg yn cael eu cynnig yn rhagweithiol yn gynyddol. Daeth yn amlwg hefyd fod sefydliadau’n mynd ati i gyflwyno newidiadau i’w galluogi i weithredu gofynion y safonau’n well. Yn ystod grwpiau trafod gydag aelodau o’r cyhoedd a gynhaliwyd yn ystod 2016-17, roedd unigolion yn datgan bod eu profiadau o wasanaethau cyhoeddus yn gwella a bod ganddynt hyder cynyddol yn y gyfundrefn safonau.

 

1.26   O safbwynt canlyniadau gwaith ymchwil, gwelwyd gwelliant amlwg o ran sut yr oedd sefydliadau’n darparu eu gwasanaethau ffôn, gwasanaethau derbynfa a’u gwefannau. Ar ben hynny, llwyddodd pob un o’r cynghorau sir i hysbysebu swyddi gyda rhywfaint o ofynion sgiliau Cymraeg, oedd yn gam allweddol ymlaen o ystyried bod yr arolwg cyffelyb yn 2015-16 wedi dangos na chafodd unrhyw ofynion sgiliau Cymraeg eu cynnwys yn hysbysebion swyddi, manylebau person a disgrifiadau swydd 11 o’r 22 cyngor sir. Roedd hyn yn awgrymu bod asesiadau o anghenion sgiliau Cymraeg yn cael eu cynnal gan y cynghorau sir yn sgil gosod safonau’r Gymraeg.

 

1.27   Ochr yn ochr â’r canlyniadau cadarnhaol hyn, roedd yr adroddiad hefyd yn casglu bod gwaith pellach i’w wneud mewn rhai meysydd ac ardaloedd, megis gwella ansawdd rhai gwasanaethau a’r angen i sefydliadau wella eu trefniadau hunanreoleiddio. Roeddwn o’r farn fod rhaid i sefydliadau weithio’n galed i newid ymddygiad er mwyn hybu a hwyluso’r Gymraeg er mwyn creu cwsmeriaid a defnyddwyr ar gyfer gwasanaethau Cymraeg.

 

1.28   Erbyn cyhoeddi’r pedwerydd adroddiad,  Mesur o Lwyddiant, ym mis Awst 2018, roedd dros 100 o sefydliadau bellach yn gweithredu safonau’r Gymraeg.

 

1.29   Mae’r adroddiad diweddaraf hwn yn casglu mai parhau i wella mae’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg gyda sefydliadau cyhoeddus. Sail yr adroddiad hwn hefyd yw cyfres o arolygon ac ymchwil am brofiadau’r cyhoedd a thystiolaeth gan y sefydliadau eu hunain.

 

1.30   Mae’r canlyniadau cadarnhaol ynghylch gwasanaethau’n cynnwys:

 

¢   cyfarchiad Cymraeg gan y derbynnydd yn ystod 89% o alwadau ffôn;

¢   opsiynau Cymraeg gan beiriannau awtomatig yn ystod 98% o’r galwadau lle’u defnyddiwyd;

¢   ymateb Cymraeg i e-bost Cymraeg mewn 93% o achosion;

¢   88% o sefydliadau â hunaniaeth gorfforaethol Gymraeg;

¢   100% o beiriannau hunanwasanaeth yn gweithio’n llawn yn Gymraeg;

¢   72% o ddeunydd cyhoeddusrwydd, a 73% o reolau, ffurflenni a hysbysiadau swyddogol ar gael yn Gymraeg.

 

1.31   Roedd 40% o ymatebwyr i arolwg barn gynhaliwyd yn credu bod cyfleoedd yn cynyddu i ddefnyddio’r Gymraeg gyda chynghorau sir, a 42% yn meddwl bod y cyfleoedd yn aros yr un peth. Mae Mesur o Lwyddiant hefyd yn cynnwys nifer o sylwadau ansoddol gan aelodau o’r cyhoedd mewn grwpiau trafod yn cyfleu eu bod wedi gweld gwelliant yn argaeledd ac ansawdd gwasanaethau ers i’r safonau ddod yn weithredol.

 

1.32   Mae’r adroddiad hefyd yn dod i’r casgliad fod cyfleoedd newydd i staff sefydliadau ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith. Mae pob un o’r sefydliadau a holwyd yn darparu meddalwedd gwirio sillafu Cymraeg i’w staff, mae 69% o’r sefydliadau a holwyd yn cynnig rhyngwyneb Cymraeg i gyfrifiaduron ac fe lwyddodd 85% o’r sefydliadau a holwyd i rannu enghreifftiau o bolisïau a dogfennau oedd ar gael yn Gymraeg i staff.

 

1.33   Rhai o’r ffactorau sydd wedi galluogi sefydliadau i wella’u gwasanaethau yw: 

 

¢   gofynion pendant sy’n gyson â sefydliadau eraill; 

¢   statws cyfreithiol y safonau a phwerau gorfodi ystyrlon; 

¢   ymagwedd reoleiddio y Comisiynydd; 

¢   datblygiad amlwg o ran cynllunio’r gweithlu i ateb y gofynion; 

¢   ymagweddu cadarnhaol gan benaethiaid sefydliadau, wedi ei atgyfnerthu gan waith cyfathrebu mewnol effeithiol am faterion y Gymraeg. 

 

1.34   Argraff y Comisiynydd yw bod y mwyafrif sefydliadau, erbyn hyn, yn deall y gofynion a’r gyfundrefn, ac yn ymrwymedig i weithredu’n gadarnhaol. Ymddengys fod gofynion cadarn y safonau wedi arwain nid at wrthwynebiad ond at ewyllys da i gwrdd â’r gofynion.

 

1.35   Nid yw’r safonau wedi arwain at gydymffurfio tic-yn-y-bocs yn unig - mae sefydliadau wedi rhoi arferion llwyddiannus ac arloesol ar waith. Rhennir y rhain drwy lyfrgell astudiaethau achos ar wefan y Comisiynydd; cynhwyswyd enghreifftiau o fewn Mesur o Lwyddiant; a chynhelir seminar arferion llwyddiannus ar 05/11/2018. Mae enghreifftiau’n cynnwys:  

 

¢   cydweithio rhwng sefydliadau ar drefniadau cyfieithu er mwyn cydymffurfio;

¢   camau er mwyn gwella’r gallu i recriwtio siaradwyr Cymraeg;

¢   cynllun i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg o fewn gweinyddiaeth fewnol;

¢   rhaglen a oedd yn mesur effaith ymyriad i gefnogi’r defnydd o’r Gymraeg ymysg staff;

¢   cryfhau trefniadau asesu sgiliau iaith;

¢   defnyddio cwynion i ddeall cryfderau a gwendidau perfformiad;

¢   trefniadau gwirio neu archwilio gwasanaeth Cymraeg sefydliadau;

¢   cynnwys y Gymraeg wrth ddigideiddio gwasanaethau neu ddarparu gwasanaethau mewn dulliau technegol newydd;

¢   gwella gwasanaethau Cymraeg wrth allanoli gwasanaethau;

¢   addasu trefniadau darparu gwasanaethau ffôn er mwyn hwyluso cydymffurfiaeth a darparu gwasanaeth yn fwy effeithlon;

¢   defnyddio data er mwyn hyrwyddo cyfleoedd i fyfyrwyr ddefnyddio’r Gymraeg;  

¢   cymryd camau i hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg a’u cynnig yn rhagweithiol;

¢   ymgysylltu â grwpiau aml-ddiwylliannol ynghylch y Gymraeg.

 

1.36   Er y gwelliant amlwg i wasanaethau, mae heriau’n parhau:

 

¢   mae datblygiad yn arafach gyda gwasanaethau sy’n gofyn am waith estynedig i gynllunio’r gweithlu (e.e. derbynfeydd) neu newidiadau polisi pellgyrhaeddol (e.e. yn 2016-17 nid oedd strategaethau sefydliadau i gynnal neu gynyddu nifer siaradwyr Cymraeg yn ddigon uchelgeisiol, manwl a chadarn; yn 2017-18 nid oedd yn amlwg fod trefniadau sefydliadau ar gyfer ystyried effaith penderfyniadau polisi ar y Gymraeg yn arwain at asesiadau digon ystyrlon o effaith penderfyniadau ar y Gymraeg, nac yn sicrhau bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i’r holl faterion sy’n ofynnol dan y safonau);

¢   mae angen i sefydliadau wneud mwy i hybu a hwyluso defnydd o’u gwasanaethau;

¢   mae angen gwaith hirdymor i sicrhau bod y gweithlu’n addas i bwrpas a bod datblygiadau technegol yn cefnogi, nid llesteirio, cydymffurfiaeth.

 

1.37   Mae’r cynnydd a wnaed hyd yma’n sail cadarn ar gyfer mynd i’r afael â’r heriau hyn – gyda gwasanaethau’n gwella, gellir symud ymlaen i’r cam nesaf. Mae risg fod y momentwm hwn yn cael ei golli wrth wneud newidiadau i’r gyfundrefn. 

 

 

 

Y model gosod a gorfodi safonau

1.38   Mae’n bwysig pwyso a mesur y model gosod a gorfodi presennol gan ystyried yn ofalus i ba raddau mae llwyddiant safonau’n ddibynnol ar y model sydd o’u cwmpas. Mae’r Llywodraeth wedi ymgynghori mewn papur gwyn ar wahanol fodelau i’r un presennol gyda’r bwriad o newid y model gan symud y gwaith o osod safonau i’r Llywodraeth a diwygio agweddau ar yr elfen orfodi. 

1.39   Mae cryfderau’r model gosod a gorfodi safonau’n cynnwys:

 

¢   cysondeb rhwng sefydliadau;

¢   gofynion pendant, diamwys;

¢   eglurder ar y dyletswyddau a disgwyliadau defnyddwyr;

¢   llwybr clir i ddefnyddwyr o ran mynd i’r afael â diffygion;

¢   sefydliadau’n gwybod beth fydd yn digwydd os nad ydynt yn cydymffurfio.

 

1.40   Mae risgiau yn perthyn i’r drefn osod safonau fodd bynnag mae gweithrediad y drefn safonau yn dangos ei bod yn gweithio a chredaf bod fy Fframwaith Rheoleiddio wedi bod yn fodd o gefnogi’r gwaith.  Yn achos yr elfen orfodi mae’n bwysig cofio mai trefn sy’n ymwneud â gwella cydymffurfiaeth a thraweffaith drwyddi draw ydyw.

 

1.41   Mae cryfderau a gwendidau i unrhyw fodel, boed yn hawliau, cymhelliant neu osod a gorfodi. Gan mai gosod a gorfodi safonau yw’r model sydd ohoni (a’r un sydd fwyaf tebygol o wella profiadau defnyddwyr gwasanaethau Cymraeg, ac o hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg) mae’n bwysigrwydd felly cadw’r elfennau sy’n gwneud safonau’n effeithiol a byddwn am i’r elfennau gosod a gorfodi gael eu cadw mewn un sefydliad.

 

         


 

2.         Asesu a yw’r fframwaith deddfwriaethol yn cefnogi’r gwaith o hyrwyddo’r Gymraeg a’r defnydd ohoni ynteu’n cyfyngu ar y gwaith hwn.

Hybu, hwyluso a hyrwyddo

2.1    Mae cylch gorchwyl y Pwyllgor yn cyfeirio’n benodol at ‘hyrwyddo’r Gymraeg a’r defnydd ohoni’. Caiff y termau hyrwyddo, hybu a hwyluso eu defnyddio’n amnewidiol yn aml, felly mae’n bwysig ein bod yn deall beth a olygir gan y termau hyn a beth a olygir gan ddatganiadau’r Llywodraeth sy’n cyfeirio at roi egni newydd i’r ymdrechion i hybu’r iaith.

 

2.2    Mae geiriaduron fel arfer yn gwneud cyswllt rhwng hybu a hyrwyddo.  Mae’r ddau air yn cyfleu’r angen i adfywio ac i roi hwb ychwanegol neu i farchnata defnydd o rywbeth: promote yn Saesneg. Mae ystyr ychydig yn wahanol i hwyluso.  Mae’r gair yma’n cyfleu’r weithred o wneud rhywbeth yn haws i’w ddefnyddio, symud rhwystrau, a darparu cymorth er mwyn galluogi hynny: facilitate yn Saesneg.

2.3    Teitl papur gwyn Llywodraeth Cymru ar y cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg a gyhoeddwyd y llynedd, oedd ‘Taro’r cydbwysedd iawn’.  Cydbwysedd rhwng hybu a rheoleiddio sydd dan sylw ac eglurir bod angen sylw ychwanegol i’r gwaith hybu a gwneud newidiadau i’r drefn reoleiddio. Caiff hybu’r Gymraeg ei ddiffinio yn y ddogfen fel ymdrechion i gynyddu ‘nifer y rheini sy’n siarad Cymraeg, cynyddu lefelau rhuglder a llythrennedd, a chodi hyder pobl i ddefnyddio’r iaith mewn sefyllfaoedd cymdeithasol a busnes o bob math’ (paragraff 12, t. 4). Mae’r ddogfen yn egluro bod amryw o sefydliadau yn cyflawni elfennau gwahanol o’r tasgau hyn gan gynnwys Comisiynydd y Gymraeg, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, y Coleg Cymraeg Cenedalethol, Mudiad Meithrin, yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol, y Mentrau Iaith a chanolfannau iaith rhanbarthol. Eglurir ymhellach fod gwaith hybu’n cynnwys ymgyrchoedd marchnata cenedlaethol, gwaith cymunedol ar lawr gwlad a gwaith cefnogi busnes.

2.4    Mae cynlluniau’r Llywodraeth yn y papur gwyn yn gwneud gwahaniaeth amlwg rhwng gwaith rheoleiddio a gwaith hybu. Mae’n hanfodol cofio bod gosod, gweithredu a gorfodi safonau oll yn ffyrdd o hybu a hwyluso’r iaith hefyd, drwy gynyddu'r defnydd ohoni a thrwy greu galw am weithlu sy’n gallu darparu gwasanaethau yn y Gymraeg. Diben y gyfundrefn safonau wedi’r cwbl yw galluogi pobl i ddefnyddio’r Gymraeg ac mae’r safonau’n creu fframwaith sy’n galluogi rhagor o weithgareddau hybu a hyrwyddo. 

2.5    Mae’r gyfundrefn safonau felly’n rhan annatod o’r ymdrechion i hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg. Nid yw gwaith rheoleiddio a gweithredu safonau, a gweithgareddau hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg yn annibynnol ar ei gilydd. 

2.6    Mae angen cynllunio a gwarchod ffiniau rhwng swyddogaethau yn ofalus er mwyn sicrhau nad yw un elfen o’r gwaith yn tanseilio’r llall. Mae hynny’n digwydd yn barod wrth i fy swyddogion hybu defnyddio’r Gymraeg gyda busnesau ac elusennau ar un llaw a rheoleiddio a gorfodi safonau ar y llaw arall. Mae hefyd yn fodel sydd eisoes yn weithredol mewn sefydliadau eraill, er enghraifft mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a Chyfoeth Naturiol yn rheoleiddio ac yn hyrwyddo.

2.7    Un o’r rhesymau dros yr angen i ddeddfu o’r newydd ar y Gymraeg yn ôl y Llywodraeth yw er mwyn gwella’r ffordd mae’r Gymraeg yn cael ei hybu. Yn adran 34 y papur gwyn, ceir rhestr o’r blaenoriaethau hybu sydd angen sylw:

¢  Amcanion clir ar gyfer rhaglen waith i hybu’r Gymraeg

¢  Cydgysylltu ac integreiddio gwaith lleol a chenedlaethol i hybu’r iaith

¢  Darparu cymorth ymarferol i gyrff yn y sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector

¢  Penodi eiriolwr ar ran yr iaith

¢  Darparu “siop un stop” ar gyfer y cyhoedd

¢  Arwain newid ar draws sawl sefydliad

¢  Lleihau dyblygu a sicrhau gwerth am arian

2.8    Yn fy ymateb i’r papur gwyn y llynedd, eglurais fy mod yn croesawu trafodaeth ar ddyfodol gwaith hybu ac yn cytuno mewn egwyddor y dylai un corff fod yn gyfrifol am hybu a rheoleiddio’r Gymraeg. Er hynny, nid wyf wedi fy argyhoeddi bod angen deddfu er mwyn gwella’r ffordd mae’r Gymraeg yn cael ei hybu. Mae’n bosibl cyflawni pob un o restr blaenoriaethau’r Llywodraeth uchod heb orfod deddfu o’r newydd.  Mae gwaith sylweddol wedi ei wneud ar rai ohonynt eisoes a chredaf mai pennu ffiniau cyfrifoldeb clir, cynllunio a chydweithio strategol a sicrhau adnoddau priodol a digonol yw’r allwedd ar gyfer y gweddill. 

Mesur y Gymraeg a gwaith hybu’r Comisiynydd

2.9    Mae Mesur y Gymraeg yn rhoi swyddogaeth eang i’r Comisiynydd hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg. Mae Rhan 2 y Mesur yn galluogi’r Comisiynydd i roi cyngor, i roi cymorth, i wneud gwaith ymchwil, i annog arferion gorau ac i wneud nifer o weithgareddau eraill fyddai’n berthnasol i ddiffiniad y Llywodraeth o waith hybu. Rhoddir swyddogaethau penodol ar y Comisiynydd hefyd, er enghraifft i ‘hybu darparu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg’ (adran 4(2)) ac mae’r Mesur yn darparu ar gyfer creu safonau’r Gymraeg sy’n cynnwys safonau hybu.   

2.10  Mae Cynllun Strategol 2018-21 y Comisiynydd yn egluro sut caiff y swyddogaethau statudol eu rhoi ar waith ac mae’n cynnwys Amcan Strategol i hwyluso defnydd ehangach o’r Gymraeg. Ceir gwybodaeth fanwl am waith hybu swyddfa’r Comisiynydd yn adroddiad blynyddol 2017-18[1]. Mae’r gwaith yn cynnwys gweithgareddau gyda busnesau ac elusennau, dylanwadu ar y Gymraeg mewn penderfyniadau polisi, cydlynu a datblygu isadeiledd y Gymraeg a gweithgareddau cyfathrebu. Byddaf yn trafod pob un o’r meysydd hyn yn gryno.

2.11  Wrth weithio gyda busnesau ac elusennau, h.y. sefydliadau a chwmnïau nad ydynt yn dod o dan ddyletswyddau statudol y safonau, mae fy swyddfa’n cynnig cyngor a chefnogaeth, yn hyrwyddo manteision defnyddio’r Gymraeg ac yn meithrin cysylltiadau â phartneriaethau strategol. Mae cynllun hybu wedi ei ddatblygu sy’n cynnwys holiadur hunanasesu er mwyn galluogi busnesau ac elusennau i asesu eu darpariaeth Cymraeg a chynllunio i greu mwy o wasanaethau. Mae dros 600 o sefydliadau wedi manteisio ar y cyfle i hunanasesu eu darpariaeth er mwyn cynllunio gwasanaethau gyda chymorth fy swyddfa.

2.12  Mae’r gwaith hwn hefyd yn cynnwys hyrwyddo manteision y Gymraeg.  Mae gan y Comisiynydd wefan benodol ar gyfer busnesau ac elusennau a fideos sy’n cynnig astudiaethau achos ynghylch manteision defnyddio’r Gymraeg.  Caiff cylchlythyr chwarterol ei anfon at ein cysylltiadau yn rhannu newyddion a gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael. Rydym hefyd yn cynnal sesiynau hyfforddiant ar ddefnyddio’r Gymraeg wedi eu teilwra ar gyfer y sector preifat a’r trydydd sector ac yn ystod 2017-18 cyrhaeddwyd 60 sefydliad. 

2.13  Mae’r tîm yn darparu cyngor ar ffurf canllawiau. Er enghraifft yn 2017-18 cyhoeddwyd canllaw ar ddefnyddio’r Gymraeg ar gyfryngau cymdeithasol a chanllaw ar ddefnyddio’r Gymraeg wrth ymgeisio am gontractau a grantiau. Elfen arall o’r gefnogaeth sydd ar gael yw gwasanaeth prawf-ddarllen am ddim i fusnesau ac elusennau a chynigir lwfans o 1,000 o eiriau ar gyfer testun fel arwyddion, bwydlenni, posteri a deunyddiau marchnata.  Rhoddwyd cefnogaeth i 122 o sefydliadau yn ystod 2017-18.

2.14  Mae fy swyddfa hefyd yn rhoi blaenoriaeth i ddatblygu partneriaethau strategol i hwyluso’r gwaith gyda busnesau ac elusennau.  Mae fy swyddogion yn cydweithio â sefydliadau fel y Gronfa Loteri Fawr a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru wrth ddarparu sesiynau hyfforddi ac yn cynnal fforymau ar gyfer banciau ac archfarchnadoedd er mwyn rhannu arfer da, trafod heriau a symud y sectorau yn eu blaen. Mae cydweithio â Chwaraeon Cymru a nifer o gymdeithasau chwaraeon wedi arwain at ddatblygu modiwl ar-lein i annog arweinwyr chwaraeon cymunedol i ddefnyddio rhagor o Gymraeg ar y meysydd chwarae. Bydd y modiwl yn cael ei ddefnyddio gan wahanol gymdeithasau a champau, ac mae Undeb Rygbi Cymru, Criced Cymru, y Gweilch yn y Gymuned ac Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru eisoes wedi ymrwymo i ddefnyddio’r modiwl yn eu rhaglenni hyfforddi. 

2.15  Mae gwaith dylanwadu ar bolisi fy swyddfa yn cynnwys cyflwyno tystiolaeth i bwyllgorau, ymchwiliadau ac ymgynghoriadau; datblygu nodiadau briffio ar bynciau penodol; a chydweithio gyda sefydliadau eraill gan wneud gwaith dwys mewn rhai meysydd a chynnig argymhellion. Gall datblygiadau polisi a deddfwriaeth gael effaith sylweddol ar ymdrechion i gynyddu siaradwyr Cymraeg ac ar allu pobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd, felly mae’r gwaith yma’n greiddiol i fy swyddogaeth hybu a hwyluso. 

2.16  Yn ystod 2017-18 cafodd nodiadau briffio ar ofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar, a phrentisiaethau cyfrwng Cymraeg eu cyhoeddi ac chynhaliwyd ymchwil ar wasanaethau gofal dementia cyfrwng Cymraeg ar y cyd ag Alzheimer’s Society Cymru. Byddaf yn adrodd ar ein casgliadau yn fuan ac yn cynnig argymhellion ar gyfer y ffordd ymlaen.  Bu cydweithio hefyd yn ddiweddar gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i gynghori Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar sut i ystyried y Gymraeg yn eu cynlluniau llesiant lleol. Yn y maes iechyd, rwy’n aelod o Fwrdd Partneriaeth y Gymraeg mewn Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus ac yn y maes addysg bu fy swyddfa’n cyfrannu at adolygiad Aled Roberts o gynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg.

2.17  Elfen arall o waith hybu fy swyddfa yw cydlynu a datblygu isadeiledd y Gymraeg. Rwy’n cynnull Panel Safoni Enwau Lleoedd i gynnig cyngor arbenigol ac argymhellion annibynnol ar enwau lleoedd ac uchafbwynt y gwaith hwn oedd lansio cronfa genedlaethol o enwau lleoedd ar-lein yn ddiweddar, sef adnodd sy’n galluogi unrhyw un chwilio am ffurfiau safonol enwau lleoedd Cymru. 

2.18  Mae gwaith yn mynd rhagddo hefyd ar baratoi dogfen gyngor newydd ar ddrafftio dwyieithog a chyfieithu gyda golwg ar ei lansio yn y misoedd nesaf.  Rwyf hefyd yn gyfrifol am gynnal Geiriadur yr Academi ar-lein ac yn ystod 2017-18 profodd i fod yn adnodd gwerthfawr gyda dros 2.25m o chwiliadau am eiriau ynddo.

2.19  Yn rhan o’r gwaith o sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei datblygu mewn meysydd o flaenoriaeth, mae fy swyddogion yn cydweithio â nifer o bartneriaid ac yn aelodau o fyrddau megis, Bwrdd Technoleg Llywodraeth Cymru, Consortiwm Astudiaethau Cyfieithu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Grŵp Llywio Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru. 

2.20  Yn olaf bydd fy swyddfa’n cyfathrebu â’r cyhoedd a chynulleidfaoedd eraill er mwyn codi ymwybyddiaeth o’n gwaith ac o’r cyfleoedd a’r manteision o ddefnyddio’r Gymraeg.  Er mwyn i bobl ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau bob dydd, mae’n bwysig eu bod yn deall y cyfleoedd sydd ar gael iddynt. Er enghraifft, yn 2017-18 cynhaliwyd ymgyrch farchnata i dynnu sylw myfyrwyr at yr hawliau newydd sy’n bodoli yn sgil safonau’r Gymraeg yn dod yn weithredol ar golegau a phrifysgolion Cymru.  Wrth baratoi’r ymgyrch bu cydweithio rhwng fy swyddogion a swyddogion y colegau a’r prifysgolion, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Colegau Cymru a swyddogion undebau myfyrwyr.

2.21  Rwyf hefyd yn gyfrifol am y cynllun Iaith Gwaith sy’n darparu adnoddau fel bathodynnau a chortynnau gwddf er mwyn galluogi pobl i adnabod lle gallant dderbyn gwasanaethau Cymraeg. Mae’r cynllun wedi hen ennill ei blwyf ac yn parhau’n boblogaidd iawn. Yn ystod 2017-18 dosbarthwyd dros 35,000 o fathodynnau a dros 30,000 o gortynnau gwddf.

Heriau gwaith hybu

2.22  Wrth ystyried y fframwaith deddfwriaethol cyfredol a’i gyfraniad at waith hybu a hwyluso, rwyf o’r farn bod darpariaethau Mesur y Gymraeg yn ddigon eang i alluogi gwaith hybu a hwyluso. Mae’r swyddogaethau sydd gennyf eisoes yn galluogi fy swyddfa i weithredu ymhell tu hwnt i waith rheoleiddio’n unig.

2.23  Wedi dweud hynny, rwy’n cytuno â galwadau’r Llywodraeth ac eraill bod angen rhoi sylw o’r newydd i’r ffordd y mae’r Gymraeg yn cael ei hybu. Gyda chymaint o sefydliadau yn ymwneud â gwahanol elfennau o waith hybu’r Gymraeg - Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg ynghyd â sefydliadau cenedlaethol a lleol eraill - mae’n bwysig bod cydweithio a chynllunio effeithiol a bod ffiniau cyfrifoldebau yn glir. 

2.24  Mae angen sicrhau hefyd bod adnoddau ac arbenigedd digonol ar gael er mwyn cyflawni. Cyllideb o £3.051m sydd gan Gomisiynydd y Gymraeg ar gyfer cyflawni swyddogaethau statudol rheoleiddio a gwneud gwaith hybu a hwyluso ehangach y cyfeiriaf atynt uchod. Un o brif gyfyngiadau gwaith hybu’r Comisiynydd ar hyn o bryd yw diffyg adnoddau i wneud mwy ac nid cyfyngiadau deddfwriaethol yn deillio o Fesur y Gymraeg.

2.25  Un o’r opsiynau a ystyriodd y Llywodraeth yn ei bapur gwyn oedd darparu mwy o adnoddau i’r Comisiynydd wneud gwaith hybu ehangach. Daeth y Llywodraeth i’r casgliad fodd bynnag nad oedd trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd y Comisiynydd yn ddigon cadarn i ysgwyddo ystod eang o gyfrifoldebau a chyllidebau ychwanegol. Y prif reswm a roddwyd am hynny oedd nad yw’r Mesur yn gwneud darpariaeth benodol ar gyfer strwythur bwrdd i fonitro’r modd mae’r Comisiynydd yn arfer pwerau. Barn y Llywodraeth oedd bod angen rhyw fath o fwrdd llywodraethu pe bai ehangu cyllid a chyfrifoldebau’r Comisiynydd a’r opsiwn sy’n cael ei ffafrio ganddynt yw sefydlu Comisiwn. Tra bod Comisiwn yn delio â phryderon y Llywodraeth am lywodraethu ac atebolrwydd, mae’n codi cwestiynau newydd am annibyniaeth a hygrededd. Mynegwyd pryder am hynny mewn nifer o ymatebion i’r papur gwyn, er enghraifft gan yr Archwilydd Cyffredinol a oedd yn ofni na fyddai gan y Comisiwn efallai ddigon o annibyniaeth o’r Llywodraeth i sicrhau hyder cyhoeddus a hygrededd yn ei allu i fonitro gweithrediad safonau.

2.26  Y strwythur llywodraethu cyfredol yn swyddfa’r Comisiynydd yw bod Panel Cynghori statudol yn bodoli y mae’n rhaid i’r Comisiynydd ymgynghori ag ef. Mae’r Panel yn ofynnol o dan y Mesur a caiff aelodau’r Panel eu penodi gan Lywodraeth Cymru. Rwyf hefyd wedi sefydlu Pwyllgor Archwilio a Risg (er nad yw’n ofynnol o dan y Mesur) er mwyn darparu cyngor a sicrwydd annibynnol ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd rheolaeth fewnol fy swyddfa. Mae’r Pwyllgor hwn yn cynnwys pedwar aelod annibynnol a swyddogion o archwilwyr mewnol y Comisiynydd a Swyddfa Archwilio Cymru. Mae swyddfa’r Comisiynydd hefyd yn ddarostyngedig i archwiliad gan yr Archwilydd Cyffredinol ac wedi derbyn sicrwydd llawn i’r cyfrifon pob blwyddyn ers ei sefydlu.

2.27  I grynhoi felly, rwyf o’r farn bod y ddarpariaeth ddeddfwriaethol gyfredol yn cefnogi ymdrechion i hybu’r Gymraeg drwy sefydlu cyfundrefn safonau i gynyddu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a thrwy roi swyddogaethau eang i’r Comisiynydd wneud nifer o weithgareddau hybu ehangach. Rwy’n cytuno â’r farn bod angen rhoi sylw o’r newydd i waith hybu ac mae cwestiwn strwythurol ynghylch pwy ddylai fod yn arwain ar y gwaith hwnnw a sut dylai hynny ddigwydd. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth ei bod yn bosibl i un sefydliad wneud gwaith rheoleiddio a hybu a chredaf fod manteision amlwg i hynny o safbwynt eglurder a chynllunio. Fel yr eglurais eisoes nid yw gweithredu safonau a hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg yn annibynnol ar ei gilydd.

2.28  Yn olaf, mae’n ymddangos i mi o’r dadleuon sy’n cael eu cyflwyno am flaenoriaethau hybu’r Gymraeg, mai cynllunio effeithiol ar lefel cenedlaethol a lleol, sicrhau eglurder cyfrifoldebau, a darparu adnoddau priodol yw’r allwedd ar gyfer y gwaith yn hytrach na pharatoi Bil o’r newydd.


 

3.         Persbectif rhyngwladol - tystiolaeth ar ddeddfwriaeth i warchod a hyrwyddo gwaith cynllunio ieithyddol yng nghyd-destun ieithoedd lleiafrifol mewn gwledydd eraill

3.1    Hyderaf y bydd y Pwyllgor yn cysylltu â nifer o asiantaethau gwarchod a hybu ieithoedd lleiafrifol mewn gwledydd eraill yn rhan o’i ymchwiliad. Y sefydliadau hynny sydd yn y sefyllfa orau mewn gwirionedd i egluro eu darpariaethau deddfwriaethol, llwyddiannau a diffygion y ddarpariaeth ac unrhyw ddatblygiadau newydd sydd ar y gweill.

3.2    Yn yr ymateb hwn, dymunaf ddarparu trosolwg byr iawn o sefyllfa rhai o’r gwledydd rwyf mewn cyswllt rheolaidd â hwy a chrynodeb o’r cysylltiadau a’r cydweithio rhyngwladol sy’n digwydd. Nid wyf yn dod i unrhyw gasgliadau cyffredinol ar y diwedd, yn bennaf oherwydd bod cyd-destun cyfreithiol a sefyllfa sosioieithyddol pob gwlad mor wahanol.  Yn hytrach fy mwriad yw tynnu sylw at rai datblygiadau deddfwriaethol arwyddocaol y bydd y Pwyllgor efallai yn dymuno ymchwilio iddynt ymhellach.

Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith (IALC)

3.3    Mae cydweithio agos yn digwydd erbyn hyn rhwng nifer o gomisiynwyr iaith ar draws y byd. Hyd yn ddiweddar bûm yn cadeirio Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith. Sefydlwyd y gymdeithas dros bum mlynedd yn ôl â’r bwriad gwreiddiol o rannu syniadau a phrofiadau ymysg yr aelodau. Prif nod y Gymdeithas yw cefnogi a hyrwyddo hawliau, cydraddoldeb ac amrywiaeth ieithyddol a chefnogi comisiynwyr iaith i gadw at y safonau proffesiynol uchaf.

3.4    Mae amcanion y Gymdeithas wedi ehangu dros amser i gynnwys:

¢  Hybu, cefnogi a hyrwyddo hawliau, cydraddoldeb ac amrywiaeth ieithyddol

¢  Rhannu profiad, dealltwriaeth a chysylltiadau

¢  Annog cyfnewid gwybodaeth

¢  Creu mwy o ymwybyddiaeth o rôl comisiynwyr iaith

¢  Rhannu hyfforddiant ac ymchwil

3.5    Croesawyd aelodau’r Gymdeithas i Gymru am y tro cyntaf yn 2017 ar gyfer eu cynhadledd flynyddol. Roedd yn gyfle i drafod ac ystyried deddfau iaith a lansiwyd y gynhadledd mewn digwyddiad i ddathlu hanner canmlwyddiant Deddf yr Iaith Gymraeg 1967 gydag anerchiad gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones AC, Llywydd y Cynulliad, Elin Jones AC a’r Gwir Anrhydeddus Syr David Lloyd Jones, Arglwydd Ustus Apêl. 

3.6    Mae aelodau’r Gymdeithas yn cynnwys pum Comisiynydd iaith o Ganada gan gynnwys Comisiynydd Ieithoedd Swyddogol y Llywodraeth Ffederal, Swyddfa Comisiynydd y Wyddeleg, Comisiynydd Ieithoedd Kosovo ac Ombwdsmyn Catalonia a Gwlad y Basg ymysg eraill.  Mae mwy o wybodaeth am yr aelodau ac amcanion y Gymdeithas ar ei wefan http://languagecommissioners.org .

3.7    Ymatebodd aelodau’r Gymdeithas (heb drafod a Chomisiynydd y Gymraeg) i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y papur gwyn y llynedd. Eglurodd yr aelodau fod annibyniaeth o Lywodraeth yn fanteisiol yn eu tyb hwy wrth hybu iaith leiafrifol ac wrth fonitro a rheoleiddio gofynion statudol.  Roeddynt hefyd o’r farn bod diogelu annibyniaeth yn bwysig o ystyried bod agweddau ac ymrwymiadau Llywodraethau yn gallu newid dros amser. Nodwyd bod gwaith hybu a rheoleiddio yn mynd law yn llaw i rai o aelodau’r Gymdeithas. Mewn rhai gwledydd er enghraifft, mae’r cyhoedd yn edrych tuag at y comisiynydd iaith i hyrwyddo, addysgu, cyfathrebu a gweithredu fel llais awdurdodol ar ieithoedd swyddogol yn ogystal â rheoleiddio a delio â chwynion. 

3.8    Yn olaf, roedd yr aelodau hefyd yn pwysleisio manteision Comisiynydd fel unigolyn, yn ffigwr cyhoeddus amlwg a fyddai’n uniongyrchol atebol i Senedd. Roedd pryder y gallai bwrdd neu gomisiwn ag arweinyddiaeth ranedig arwain at negeseuon cymysg ac y byddai’r atebolrwydd cyhoeddus yn gwanhau. 

Deddfau a statud ieithoedd lleiafrifol

3.9    Mewn nifer o wledydd a rhanbarthau, mae cyfansoddiad y wlad neu’r statud ymreolaeth yn cynnwys datganiadau am ieithoedd swyddogol neu’r iaith leiafrifol. Dyma’r sefyllfa er enghraifft yng Nghatalonia, yng Ngwlad y Basg ac yn Iwerddon.  Mae statud ymreolaeth Catalonia yn datgan bod y Gatalaneg yn iaith swyddogol, yn briod iaith ac yn iaith gweinyddiaeth gyhoeddus Catalonia. Mae’r Fasgeg yn iaith swyddogol yn ôl erthygl 6 statud ymreolaeth Gwlad y Basg, ac mae’r Wyddeleg yn iaith swyddogol gyntaf Iwerddon yn ôl erthygl 8 cyfansoddiad y wlad.

3.10  Mae gan y gwledydd hyn ddeddfau hefyd i gefnogi, diogelu a hyrwyddo’r ieithoedd swyddogol. Yr hynaf o’r deddfau hyn mae’n debyg yw Deddf Ieithoedd Swyddogol Canada 1969.

Canada

3.11  Mae Deddf 1969 yn gyfraith ffederal sy’n berthnasol ar draws Canada. Er hynny, nid yw’n weithredol mewn llywodraethau ac awdurdodau rhanbarthol ac mae gan rai taleithiau fel Ontario a New Brunswick eu deddfau iaith a’u Comisiynwyr eu hunain. Ers 1969, mae’r Ddeddf Ieithoedd Swyddogol wedi ei diwygio er mwyn ehangu ei chynnwys a’i chwmpas. Cafodd Deddf Ieithoedd Swyddogol newydd ei mabwysiadu yn 1988 a bu diwygio ar raddfa lai eto yn 2005. Prif amcanion y Ddeddf yw:

¢ Sicrhau parch i’r Saesneg a’r Ffrangeg a sicrhau cydraddoldeb statws a hawliau a breintiau cydradd wrth ddefnyddio’r ieithoedd gyda sefydliadau ffederal

¢ Cefnogi datblygiad cymunedau ieithoedd lleiafrifol Saesneg a Ffrangeg

¢ Hyrwyddo statws cydradd defnydd o Saesneg a Ffrangeg

3.12  Mae’r Ddeddf yn berthnasol i sefydliadau ffederal gan gynnwys Senedd Canada, adrannau’r Llywodraeth ac awdurdodau’r Goron. Nid yw’n delio â’r sector preifat fel y cyfryw, ond mae’n berthnasol i gorfforaethau o dan reolaeth gyhoeddus fel Canada Post ac i rai cwmnïau preifat a gadwodd eu dyletswyddau ieithyddol ar ôl cael eu preifateiddio, fel Air Canada.

3.13  Mae’r Ddeddf yn gosod hawliau i’r cyhoedd allu defnyddio un o’r ddwy iaith swyddogol yn nhrafodaethau’r Senedd ac mewn llysoedd. Mae hefyd yn sefydlu hawliau i gael dewis iaith gyda sefydliadau ffederal ac i dderbyn gwasanaethau yn yr iaith honno. Ceir adran ynddi hefyd ar ddefnyddio iaith yn y gweithle a rhoddir hawl i unigolion gael gweithio yn eu dewis iaith mewn ardaloedd penodol. Mae’r hawl hwn yn cynnwys derbyn adnoddau, ysgrifennu a siarad, derbyn hyfforddiant a chael goruchwyliaeth yn yr iaith swyddogol o’u dewis. Mae’r Ddeddf yn gosod disgwyliadau ar sefydliadau ffederal i sicrhau bod sgiliau iaith eu gweithlu yn adlewyrchu’r boblogaeth ac yn egluro bod sgiliau yn y ddwy iaith yn orfodol ar gyfer rhai swyddi gwasanaeth cyhoeddus.

3.14  Elfen arall o Ddeddf Ieithoedd Swyddogol Canada yw’r cysyniad o gynnig rhagweithiol. Mae adran 28 y Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau ddangos yn glir eu bod yn gallu cynnig gwasanaeth yn y ddwy iaith swyddogol. Mae disgwyl i gyfarchiadau wyneb yn wyneb a dros y ffôn gael eu gwneud yn ddwyieithog, ac i ohebiaeth ysgrifenedig egluro bod sefydliadau yn gallu darparu gwasanaeth yn y ddwy iaith swyddogol. Mae’r cyfrifoldeb ar y sefydliad i gynnig yn hytrach nag ar yr unigolyn i ofyn.

3.15  Mae galwadau wedi bod yn ddiweddar i foderneiddio’r Ddeddf yng Nghanada gan nad oes adolygiad sylweddol wedi bod ers 1988. Ar ôl gwaith cychwynnol gan bwyllgor Seneddol ac ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Ieithoedd Swyddogol, mae Prif Weinidog Canada wedi ymrwymo’n ddiweddar i ddiwygio’r Ddeddf.

3.16  Mae cyfreithiau rhanbarthol yn bodoli yng Nghanada hefyd.  Yn Ontario er enghraifft, mae Deddf Gwasanaethau Ffrangeg 1989 yn rhoi hawliau i’r cyhoedd dderbyn gwasanaeth yn Ffrangeg gan asiantaethau ac adrannau’r Llywodraeth ranbarthol.  Sefydlwyd Swyddfa Comisiynydd Gwasanaethau Ffrangeg Ontario yn 2007 er mwyn sicrhau bod hawliau ieithyddol unigolion yn cael eu parchu yn unol â’r Ddeddf. 

3.17  Yn New Brunswick, cymeradwywyd Deddf Ieithoedd Swyddogol 2002 a sefydlodd swyddfa’r Comisiynydd Ieithoedd Swyddogol fel asiantaeth annibynnol o’r Senedd. Mae’r Ddeddf hon yn rhoi hawliau i bobl dderbyn gwasanaethau cyhoeddus yn eu dewis iaith a gall y Comisiynydd ymchwilio i fethiannau.

Catalonia a Gwlad y Basg

3.18  Mae cyfansoddiad Sbaen yn nodi mai’r Sbaeneg yw iaith swyddogol y wlad, ond caniateir ieithoedd swyddogol eraill mewn cymunedau ymreolaethol. Fel y nodais eisoes mae statudau ymreolaeth Catalonia a Gwlad y Basg yn gwneud darpariaeth benodol am ieithoedd. Yng Nghatalonia cafwyd Deddf Normaleiddio’r Gatalaneg yn 1983 a Deddf Polisi Iaith rhif 1 yn 1998. Mae Deddf 1998 yn ymwneud â’r Gatalaneg yn y meysydd canlynol:

¢  Defnydd awdurdodau cyhoeddus (gan gynnwys gwrandawiadau cyfreithiol)

¢  Enwau lleoedd ac enwau personol

¢  Addysg (Catalaneg yw iaith addysg ond caniateir addysgu yn Sbaeneg hefyd)

¢  Cyfryngau torfol a diwydiannau diwylliannol (radio a theledu)

¢  Gweithgareddau sosio-economaidd

3.19  Mae hefyd yn rhoi dyletswydd ar lywodraeth Catalonia i ffafrio, annog a hyrwyddo defnyddio’r Gatalaneg ym myd gwaith, proffesiynol, masnachol, cymdeithasol a gweithgareddau eraill. Ymhellach i hynny, rhaid i’r Llywodraeth greu ac ariannu canolfannau ar y cyd ag awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am hyrwyddo dysgu a defnyddio’r Gatalaneg a chanolfannau normaleiddio’r iaith.

3.20  Yng Ngwlad y Basg, mae Deddf Normaleiddio’r Defnydd o’r Fasgeg 1982 yn nodi mai’r Fasgeg yw priod iaith y wlad a’i bod yn iaith swyddogol ynghyd â’r Sbaeneg.  Mae’r Ddeddf yn manylu ar yr hawliau canlynol:

¢  Hawliau i ddefnyddio’r ieithoedd ar lafar ac yn ysgrifenedig wrth ymwneud â gweinyddiaeth gyhoeddus

¢  Hawl i gael addysg yn y ddwy iaith swyddogol

¢  Hawl i dderbyn papur newydd, rhaglenni radio a theledu a chyfryngau eraill mewn Basgeg

¢  Hawl i ymgymryd â gweithgareddau proffesiynol, gwaith, gwleidyddol ac undebol drwy gyfrwng y Fasgeg

¢  Hawl i siarad Basgeg mewn unrhyw gyfarfod

3.21  Mae’r Ddeddf hefyd yn manylu ar gyfrifoldeb y weinyddiaeth gyhoeddus i ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd yn y Fasgeg ac yn ei gwneud yn ofynnol i’r Llywodraeth gynllunio’n ieithyddol i hyrwyddo’r Fasgeg.

Gweriniaeth Iwerddon

3.22  Deddf Ieithoedd Swyddogol 2003 sy’n darparu ar gyfer y Wyddeleg yn Iwerddon ac arweiniodd hefyd at sefydlu Swyddfa Comisiynydd y Wyddeleg. Prif fwriad y Ddeddf yw gwella darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus drwy gyfrwng y Wyddeleg. Y broses a sefydlwyd ar gyfer gwneud hynny yw cynlluniau iaith sy’n cael eu cytuno rhwng sefydliadau cyhoeddus unigol a’r Llywodraeth. Felly, er mai’r Comisiynydd sy’n gyfrifol am reoleiddio’r cynlluniau iaith, y Llywodraeth sy’n cytuno ar eu cynnwys.

2.23  Mewn datganiad yn 2017, dywedodd y Comisiynydd bod y gyfundrefn cynlluniau iaith wedi methu cyrraedd ei nod. Eglurodd bod oedi sylweddol wedi bod mewn cytuno cynlluniau iaith a bod ymrwymiadau gwannach wedi eu cytuno yn dros hanner y cynlluniau iaith a ddiwygiwyd.

3.24  Roedd Llywodraeth Iwerddon eisoes wedi cychwyn adolygu’r Ddeddf Ieithoedd Swyddogol yn 2014. Yn dilyn ffurfio Llywodraeth newydd yn 2016, cyhoeddwyd Bil drafft cryno yn 2017 a oedd yn cynnwys cyflwyno trefn safonau yn seiliedig ar fodel Cymru a fyddai’n disodli cynlluniau iaith.  Trefn a groesewir gan swyddfa’r Comisiynydd a mudiadau pwyso fel ei gilydd. 

 



[1] http://www.comisiynyddygymraeg.cymru/Cymraeg/Rhestr%20Cyhoeddiadau/Adroddiad%20Blynyddol%202017-18%20Annual%20Report.pdf